Yn dilyn taith lwyddiannus iawn i'r Storfa yn gynharach y tymor hwn, mae disgyblion o Ysgol Calon Lân (campws Tŷ Dyfatty) yn parhau i ddysgu am fyd adeiladu, y tro hwn gyda seiri coed. Mewn partneriaeth â Gyrfa Cymru, Kier Group plc ac Ian Williams Carpentry Ltd., llwyddodd y disgyblion i adeiladu rhai potiau plannu gardd gyda chymorth Jamie Murphy a'r prentis Dion Hanly. Diolch arbennig i'r ddau am ddylunio potiau plannu sy'n addas i gadeiriau olwyn.
Cyflwynwyd y disgyblion i'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gwaith fel cydweithio i gwblhau tasg, dilyn cyfarwyddiadau iechyd a diogelwch a phwysigrwydd defnyddio PPE.
Diolch yn fawr i Amanda Swoboda o Kier Group plc ac Ellie Campbell o IWC Ltd. a drefnodd y digwyddiad mewn partneriaeth ag Andrea John o Gyrfaoedd Cymru.
Bydd y disgyblion yn cael hwyl yn plannu'r rhain gyda bylbiau a blodau yn barod ar gyfer y gwanwyn.


