Prentisiaethau yng Ngholeg Sir Gâr

Ennill Wrth Ddysgu. Dechreuwch Eich Taith Prentisiaeth.

Mae prentisiaeth yn ffordd wych o gymryd eich cam nesaf, gan gyfuno gwaith go iawn â dysgu go iawn. Byddwch yn cael eich talu wrth weithio tuag at gymhwyster, gan feithrin sgiliau sy'n bwysig ym myd gwaith.

Fel prentis, byddwch chi'n cael eich cyflogi mewn swydd sydd o ddiddordeb i chi, gan ddysgu gan gydweithwyr profiadol ac ennill profiad ymarferol bob wythnos. Ar yr un pryd, byddwch chi'n dod i'r coleg am ran o'ch wythnos, lle bydd ein tiwtoriaid cyfeillgar a gwybodus yn eich helpu i ddatblygu'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i lwyddo.

Byddwch yn treulio tua 20% o'ch amser gwaith ar hyfforddiant sy'n cefnogi'ch cymhwyster. Gallai hyn fod yn yr ystafell ddosbarth, ar-lein, neu hyd yn oed ar brosiectau arbennig. Mae'n gydbwysedd gwych o ddysgu a gwneud, gan eich helpu i fagu hyder, adeiladu'ch dyfodol, a chymryd eich camau cyntaf tuag at yrfa lwyddiannus. Cysylltwch â ni am fwy o fanylion am brentisiaethau yng Ngholeg Sir Gâr.

Manylion cyswllt Prentisiaethau yng Ngholeg Sir Gâr

Coleg Sir Gâr, Heol Sandy, Llanelli, SA15 4DN

Darganfod

Gwneud cais nawr

Os hoffech wneud cais ar gyfer mis Medi 2026, gwnewch gais gan ddefnyddio'r botwm isod: