
Eisiau rhywfaint o help i gael gwaith?
Os ydych chi'n gwybod beth rydych chi eisiau ei wneud ac yn chwilio'n weithredol ac yn barod i ddechrau gweithio, gall y llinyn hwn o Twf Swyddi Cymru+ eich helpu i gael swydd.
Byddwch yn gweithio'n agos gyda'ch darparwr Twf Swyddi Cymru+ a fydd yn dod o hyd i gyfle swydd o safon i chi gyda chyflogwr lleol. Byddwch yn rhan o gwmni, wedi ymrwymo'n llawn i delerau ac amodau'r cyflogwr rydych chi'n cael eich lleoli gydag ef ac yn cael eich talu.
Mae cyflogwyr yn derbyn cymhorthdal cyflog gan Lywodraeth Cymru i helpu i dalu eich cyflog am y chwe mis cyntaf. Felly, mae Twf Swyddi Cymru+ yn rhaglen ddeniadol i gyflogwyr gymryd rhan ynddi – gan helpu i greu mwy o gyfleoedd gwaith i chi gael gwaith.
Beth sy'n digwydd ar linyn Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+?
Byddwch yn cytuno ar eich Cynllun Dysgu Unigol gyda'ch darparwr Twf Swyddi Cymru+ a fydd yn defnyddio hwn i drefnu'r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch i sicrhau swydd.
Gallai gweithgareddau gynnwys y canlynol i gyd neu gyfuniad ohonynt:
- Paratoi sy'n gysylltiedig â gwaith fel sgiliau hanfodol a beth i'w ddisgwyl pan gewch chi swydd
- Cymorth i feithrin eich hyder a gwella eich technegau cyfweliad
- Cymorth i ddod o hyd i swyddi a gwneud cais amdanynt
- Hyfforddi a mentora yn ystod chwe mis cyntaf eich cyflogaeth fel y gallwch barhau i dyfu a datblygu eich sgiliau
Bydd eich darparwr Twf Swyddi Cymru+ yn eich cefnogi i sicrhau eich bod yn derbyn yr holl gymorth sydd ei angen arnoch.
Faint fyddwch chi'n cael eich talu?
Ar y llinyn hwn o Twf Swyddi Cymru+ gallwch dderbyn lwfans hyfforddi o hyd at £55 yr wythnos tra byddwch yn chwilio am swydd.
Rhaid i chi fynychu am o leiaf 16 awr yr wythnos. Fodd bynnag, dim ond os byddwch chi'n mynychu am 30 awr neu fwy mewn unrhyw gyfnod o 7 diwrnod y telir y lwfans hyfforddi llawn o £55. Bydd swm y lwfans hyfforddi a gewch yn dibynnu ar nifer yr oriau rydych chi'n cymryd rhan.
Pan gewch chi swydd, yn lle lwfans hyfforddi byddwch chi'n ennill cyflog priodol sy'n cael ei dalu o leiaf ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol.
Pan fyddwch chi ar raglen Twf Swyddi Cymru+ byddwch chi hefyd yn cronni gwyliau blynyddol bob mis heb i hynny effeithio ar eich lwfans hyfforddi na'ch cyflog.
Mae gen i ddiddordeb yn Twf Swyddi Cymru a Mwy – Cyflogaeth. Beth sydd angen i mi ei wneud?
Mae angen i chi weld Cynghorydd Gyrfaoedd Gyrfa Cymru a fydd yn trafod eich syniadau gyrfa gyda chi ac yn eich cyfeirio at gynllun addas.
Os ydych chi'n dal yn yr ysgol – siaradwch â Chynghorydd Gyrfaoedd eich ysgol