Twf Swyddi Cymru a Mwy – Ymgysylltu

Mwy am Twf Swyddi Cymru a Mwy

Ddim yn siŵr pa lwybr gyrfa rydych chi am ei ddilyn?

Bydd y llinyn hwn o Twf Swyddi Cymru+ yn eich helpu i benderfynu beth i'w wneud nesaf. Mae hefyd yn lle da i ddechrau os oes angen mwy o gymorth arnoch i'ch helpu i gymryd rhan mewn cyflogaeth ac addysg.

Mae'n rhoi'r cyfle i chi gael blas ar swyddi y gallech fod â diddordeb ynddynt cyn i chi ymrwymo i gwrs neu brentisiaeth. Bydd hefyd yn eich helpu i baratoi ar gyfer a symud i fyd gwaith.

Beth sy'n digwydd ar linyn Ymgysylltu Twf Swyddi Cymru+?

Byddwch yn cytuno ar eich Cynllun Dysgu Unigol gyda'ch darparwr Twf Swyddi Cymru+ a fydd yn defnyddio hwn i drefnu gweithgareddau hyfforddi a datblygu sy'n benodol i chi.

Gallai gweithgareddau gynnwys y canlynol i gyd neu gyfuniad ohonynt:

  • Cyfleoedd dysgu mewn canolfan gyda'ch darparwr Twf Swyddi Cymru+
  • Treialon gwaith byr gydag un neu fwy o gyflogwyr
  • Lleoliadau gwaith gyda chyflogwyr lleol a all bara hyd at 4 wythnos ar y tro
  • Prosiectau cymunedol
  • Gwaith gwirfoddol

Bydd eich cyfleoedd hyfforddi a phrofiad gwaith yn adlewyrchu'r hyn sydd o ddiddordeb i chi, a chewch gyfle i brofi amrywiaeth o weithgareddau sy'n adlewyrchu rolau swyddi gwirioneddol.

Bydd eich darparwr Twf Swyddi Cymru+ yn eich cefnogi i sicrhau eich bod yn derbyn yr holl gymorth sydd ei angen arnoch.

Faint fyddwch chi'n cael eich talu?

Ar y llinyn hwn o Twf Swyddi Cymru+ gallwch dderbyn lwfans hyfforddi o hyd at £30 yr wythnos.

Nid oes isafswm o oriau mynychu'r wythnos. Fodd bynnag, dim ond os byddwch yn mynychu am 21 awr neu fwy mewn unrhyw gyfnod o 7 diwrnod y telir y lwfans hyfforddi llawn o £30. Bydd swm y lwfans hyfforddi a gewch yn dibynnu ar nifer yr oriau rydych yn cymryd rhan.

Tra byddwch chi ar raglen Twf Swyddi Cymru+ byddwch chi hefyd yn cronni gwyliau blynyddol bob mis heb i hynny effeithio ar eich lwfans hyfforddi.

Cymorth ychwanegol

I'r rhai sydd ei angen, mae cymorth ariannol a phersonol ychwanegol ar gael i'ch helpu i gwblhau eich rhaglen Twf Swyddi Cymru+. Bydd meini prawf cymhwysedd yn berthnasol, a bydd ein cynghorwyr Cymru'n Gweithio yn trafod eich amgylchiadau pan fyddant yn asesu eich anghenion.

Mae gen i ddiddordeb yn Twf Swyddi Cymru a Mwy – Ymgysylltu. Beth sydd angen i mi ei wneud?

Mae angen i chi weld Cynghorydd Gyrfaoedd Gyrfa Cymru a fydd yn trafod eich syniadau gyrfa gyda chi ac yn eich cyfeirio at raglen addas.

Os ydych chi'n dal yn yr ysgol – siaradwch â Chynghorydd Gyrfaoedd eich ysgol

Darganfod

Dysgwch fwy

Os hoffech wneud cais ar gyfer mis Medi 2026, gwnewch gais gan ddefnyddio'r botwm isod: