Archwiliwch yr holl opsiynau
Cymerwch y cam nesaf yn eich addysg drwy archwilio'r cyfleoedd cyffrous.
Mae Ysgol Gyfun Treforys yn cynnal chweched dosbarth 'mynediad agored', gan roi croeso cynnes i bob disgybl blwyddyn 11 o bob cwr o Abertawe. Rydym yn ymfalchïo yn ein gallu i gyflwyno cymysgedd cyfoethog o bynciau mewn amgylchedd ysgol gefnogol. Mae ein cynnig helaeth yn cynnwys cyrsiau Safon Uwch traddodiadol a chyrsiau galwedigaethol i ddarparu llwybr hyblyg sy'n diwallu anghenion yr unigolyn. Profiadau addysgu a dysgu o ansawdd uchel yw sylfaen ein darpariaeth ôl-16.
Yn Hyfforddiant INSPIRE rydym yn cynnig amrywiaeth eang o gymwysterau i chi ddewis ohonynt, yn ogystal â darparu amrywiaeth o weithgareddau gwahanol sy'n helpu i gynyddu eich hyder, hybu sgiliau gweithio mewn tîm, a datblygu cyfathrebu er mwyn gwneud i'ch CV sefyll allan o'r dorf a chael y swydd rydych chi ei heisiau!