Ymwelodd disgyblion o Ysgol Gynradd Townhill ac Ysgol Gynradd Clwyd â Champws Tycoch Coleg Gŵyr Abertawe yr wythnos hon am ddiwrnod cyffrous o weithdai gyrfaoedd a gweithgareddau ymarferol , a gynlluniwyd i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol medrus.
Roedd yr ymweliad yn rhan o ddathliad ehangach wrth i Goleg Gŵyr Abertawe groesawu Ffagl Tîm Cymru , gan nodi carreg filltir bwysig ar ei daith ar draws Cymru cyn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills y DU — a gynhaliwyd yng Nghymru am y tro cyntaf eleni.
Mae cystadleuaeth WorldSkills, a elwir yn aml yn “Gemau Olympaidd Sgiliau” , yn arddangos y dalent ifanc orau o bob cwr o’r DU a thu hwnt.
Yn ystod eu hymweliad, cafodd y disgyblion cynradd gyfle i archwilio gwahanol lwybrau gyrfa, cwrdd â myfyrwyr a staff y coleg, a dysgu mwy am y cyfleoedd cyffrous o fewn addysg alwedigaethol.
Gadawodd y digwyddiad yr ymwelwyr ifanc wedi’u hysbrydoli a’u cymell , yn enwedig ar ôl clywed bod saith o fyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe wedi cyrraedd Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills y DU eleni — tystiolaeth wirioneddol i ymroddiad y coleg i ragoriaeth sgiliau a datblygu talent yn y dyfodol.





